Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 24, 2011

Wrth Aros yr AVE

Trên yw’r AVE, trên cyflym iawn sydd angen trac newydd a mwy o le na’r hen rai. Mae wedi bod yn rhedeg o Madrid i ddinasoedd dethol yn nwyrain a de Sbaen (ardal Môr y Canoldir) ers bron i ugain mlynedd bellach: Barcelona, Tarragona, Málaga a Valencia. Mae dinasoedd y canol hefyd wedi elwa arno neu ar fin gwneud: Segovia, Córdoba, Valladolid, Léon.

Ond dyw e ddim yn cyrraedd arfordir yr Iwerydd. Hyd yn hyn gadawyd Bilbao, Santander, Oviedo, Santiago a dinasoedd eraill y gogledd heb wasanaeth yr AVE. Nawr bod y bwrlwm economaidd wedi diflannu, digon tebyg na chyrhaeddith e am flynyddoedd eto chwaith.

Mae gwleidyddion cymunedau’r arfordir i gyd yn brwydro i’w ennill, ond y ffaith yw y bydd y leiniau’n  mynd o Madrid i bob un o’r dinasoedd fel adenydd olwyn, felly ymladd yn erbyn ei gilydd y maen nhw, achos mae pob un yn gynllun ar wahan. Mae cwyno fan hyn yn Asturias bod cymaint (€5000,000,000) wedi eu hala ar brosiect paratoi AVE Galicia, yn enwedig ers i’r newyddion o Frwsel ddydd Mercher nad oedd yr UE yn gweld diben cyflawni’r addewid bod AVE Léon yn cael ei estyn i Oviedo a Gijón.

Tybed a fydd y Basgwyr yn derbyn rhywbeth fel hwb i’r heddwch?


Responses

  1. Oes són bydd cyswllt AVE rhwng Madrid a (cyhyuned ymreolaethol) Gwlad y Basg yn cael ei gynig fel rhy fath o abwyd?

    Dw i wedi bod yn darllen erthygl wikipedia am rwydaith dren ‘Y’ Gwlad y Basg. Tipyn o wrthywnebiad gan ecolegwyr a rhai o’r mudiad cenedlaethol asgell chwith (ddim eisiau Madrid fod yn rhy agos!).

    Mae diddorol (ond ddim ynsiowr pa mor gywir) o 2007 am ddarpariaeth a llwybrau arfaethedig yr AVE.

    • Dim byd swyddogol, ond o feddwl cymaint o fuddsoddi gafodd rheilffyrdd gogledd Iwerddon unwaith yr oedd y Cynulliad yno wedi dechrau ar ei waith, synnwn i damed. Mae’r dadlau yn erbyn yr AVE yn debyg ym mhobman : dydyn ni yn y pentref ddim eisiau gweld AVE ar hyd yr arfordir achos byddai fe’n golygu cau’r lein fach sydd gyda ni, difetha tirwedd hyfryd a gwneud lot o sŵn. Ond fe fyddai’n gymorth i gadw nwyddau trymion oddi ar yr heolydd ac i bobl sydd yn cyflawni teithiau hir. Ar hyn o bryd dyw’r UE ddim yn mynd i roi arian tuag at ‘corridor’ rheilffyrdd cyflym yr Iwerydd, felly dim byd ar gyfer unrhyw AVE rhwng dinasoedd Gwlad y Basg a Ffrainc.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: