Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 27, 2011

Annibynnol neu Ynysedig

Nawr rydym ni gyd yn gwybod beth fydd rhaid i’r banciau Sbeinig wneud yn sgîl y cyfarfod copa ym Mrwsel dros nos. Mae angen i’r 5 mwyaf gael €26bn yn fwy yng nghronfeydd  ‘haenen gyntaf’ eu cyfalaf yn erbyn dyledion sy’n mynd yn wael. Ond beth am y gwleidyddion? A beth amdanom ni’r bobl?

Yr un pryd ag y mae Catalunya a Gwlad y Basg yn gofyn am fwy o annibyniaeth economaidd a threthol oddi wrth Madrid, mae Madrid yn dechrau ystyried o ddifri ymrwymo gyda Ffrainc, yr Almaen, gwledydd Benelux a gweddill ardal yr ewro er mwyn creu fframwaith closach fyth: trysorlys cyffredin, trethi tebyg, a chyfyngiadau cryfach ar gyllidebau aelod-wledydd. Rhaid dweud bod llywodraeth Zapatero wedi cyflawni’r hyn a addawodd: mae ei dyled wedi disgyn bron i 17% ers dechrau’r flwyddyn. Ond y bobl sydd mâs o waith am fod Madrid wedi pallu talu arian i’r cymunedau, a’r cymunedau a’r trefi wedi gorfod colli swyddi: nhw sy’n talu am y gwelliant.

Dadl y rhai (digonedd yn y papurau’r bore ‘ma) sy’n gweld y fframwaith newydd fel yr unig ffordd mâs o’r mieri yw nad yw gwledydd Ewrop yn unigol yn ddigon pwerus, taw dim ond mewn undeb y gallan nhw gystadlu gyda’r UDA a China. Byddai symud pwerau economaidd i Drysorlys Ewropeaidd yn lleihau pwysigrwydd Madrid, ond wedi dweud hynny fel allai fynd yn un o ddwy ffordd hyd y gwela’i. Naill ai bydd Madrid wedyn yn gafael yn dynn ym mha bynnag rym sydd ar ôl neu fe fydd Sbaen, a’r gwledydd-wladwriaeth eraill, yn dioddef ymosodiad o’r ochr arall (y gwledydd llai a’r taleithiau) ar yr un pryd. Fe all fod yn ddechrau proses newid mawr.

O leiaf mae bad achub annisgwyl wedi ymddangos ar y gorwel i rai o’r diwaith: mae ar Brasil angen miloedd o weithwyr adeiladu a thwristiaeth – ar unwaith. Paratoi y maen nhw at Cwpan Peldroed y Byd (2014) a’r Gemau Olympaidd (2016).

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: