Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 29, 2011

Moddion i Catalunya

Flwyddyn ers iddyn nhw ffurfio llywodraeth mae CiU, plaid adain-dde y cenedlaetholwyr Catalan, yn ystyried y newid mwyaf erioed yng nghyfundrefn iechyd unrhyw gymuned awtonomig. Mae’r cynllun yn rhagweld torri’r gyfundrefn unffurf gyhoeddus sydd gyda nhw nawr yn ddarnau. Byddai pob un o’r 8 ysbyty mawr yn dod yn gwmni, felly hefyd grwpiau o ganolfannau iechyd a gwasanaethau llai – 20 i gyd.

Byddai pob cwmni yn gyfrifol am redeg ei wasanaeth yn y modd yr oedd ei gyfarwyddwyr yn dewis, a byddai ganddyn nhw’r hawl i fenthyg arian neu i ddenu buddsoddiad o’r sector preifat. Nhw hefyd fyddai’n cyflogi’r meddygon a gweithwyr eraill: ar hyn o bryd maen nhw’n sefyll profion ac yn cael eu cyflogi yn ganolog.

Arbed arian yw’r nôd, wrth gwrs. Yn ôl adroddiad mewnol a ymddangosodd yn y papur El País, mae’r CiU am i’r gweithwyr gael cytundebau gwaith llawer mwy ‘hyblyg’ – h.y. heb fod yn barhaol. A sdim rhaid i weithwyr iechyd Catalunya aros i weld sut ddyfodol fydd hi: maen nhw eisoes wedi cael gwybod y bydd ail doriad yn eu cyflogau nhw, yn dechrau nawr.

Ar yr un pryd mae un o brif ymgeiswyr CiU yn yr etholiad Sbeinig wedi rhybuddio’r PP (adain-dde, yn debyg o ennill) y bydd eisiau ei blaid ef arnyn nhw hyd yn oed os cân nhw fwyafrif dros bawb. A hynny er mwyn pasio deddfau newydd ar hawliau gweithwyr wrth chwilio am yr un ‘hyblygrwydd’.  Yr un hen rwyg rhwng y dosbarthiadau?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: