Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Hydref 30, 2011

Rheolau a Rhyddid

Sbel go hir ers imi ysgrifennu dim am y cythruddedigion, yr indignados, sy’n dal i gyfarfod mewn cynulliadau agored, ac i feddiannu sgwarau a strydoedd o bryd i’w gilydd. Erbyn hyn wrth gwrs mae mudiadau tebyg drwy gydol y byd, a nid Puerta del Sol Madrid yw’r mwyaf adnabyddus bellach, ond Wall St Efrog Newydd a St Pauls Llundain. Ond rwyf i newydd ddarllen hanes am un darn bach o’r ugeiniau o brotestiadausydd wedi datblygu yn Madrid: hen westy gwag yng nghanol y ddinas a feddiannwyd er mwyn darparu llety i brotestwyr ac i deuluoedd digartref.

Dim ond wythnos maen nhw wedi bod yn yr adeilad, ond yn barod mae problemau’n dechrau codi, a hynny am sawl reswm. Hen adeilad 5 llawr yw e, ac yn awr heb system atal tân: beth felly i wneud gyda’r teuluoedd sy’n cyrraedd, os nad yw hi’n ddiogel? Hyd yma maen nhw wedi cynnal cegin 24 awr gyda bwyd am ddim (wedi ei roi gan gefnogwyr) – ond beth am y bobl hynny sy’n dod er mwyn y bwyd yn unig ac nid i gymryd rhan yn y cynulliadau a gweddill y mudiad? Beth am y bobl sy’n gweld mantais personol yn lle parchu’r gweddill? Beth am yr heddlu cudd?

Mae’r bobl ifainc, delfrydwyr ar y dechrau, yn gorfod troi’n wleidyddion. Maen nhw’n dal i wneud hynny ar eu termau nhw’u hunain, drwy’r cynulliadau. (Bydd unrhyw un sydd wedi gweld ffilm anhepgor Ken Loach ‘Tierra y Libertad‘ yn cofio’r cynulliad yn honno lle mae trigolion y pentref a’r milwyr tramor yn dadlau am ddyfodol y rhyfel a pherchnogaeth tir.)   Ond mae bywyd yn y gwesty wedi chwerwi, ac ambell un yn sôn am adael, tra bod eraill yn dal bod rhaid esbonio ac addysgu’r bobl newydd. Y deallusion a’r lumpenproletariat, yn cyd-fyw am resymau tra gwahanol.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: