Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 1, 2011

Pigion o’r Argyfwng

Yma yn Asturias, mae 70% o’r disgyblion 16 oed oedd yn mynychu ysgolion preifat/eglwysig y llynedd wedi gadael: rhai i wneud arholiadau 18+ mewn ysgol gyhoeddus, ond mwy i ddilyn cyrsiau hyfforddi proffesiynol – popeth o amaeth i IT.

Mae arolwg yng nghymoedd y glo wedi dangos bod nifer o’r cwmniau a dderbyniodd €miliynau o gronfeydd Ewrop yn ystod y 3-4 blynedd diwethaf er mwyn creu swyddi wedi mynd i’r wal. Dim swyddi, a fawr o obaith o gael yr arian yn ôl.

Yn Ffrainc, o hyn tan ddiwedd y gaeaf fydd neb yn cael ei droi mâs o’i gartref am fethu a thalu’r rhent. Diolch i ddeddf a ddaeth i fewn dros 60 mlynedd yn ôl yn sgîl pwyso mawr gan Abbe Pierre, maen nhw’n ddiogel tan Mawrth 5fed.

Mae arian ar gael o hyd i rai – yn Efrog Newydd mae pris y plât alwminiwm sy’n rhoi hawl iti yrru tacsi mawr melyn wedi cyrraedd $1 miliwn. Roedd y gwerthwr wedi ei brynu am ¢80,000 30 mlynedd yn ôl. A does dim rhaid i’r prynu fod yn berchen tacsi: bydd e’n rhentu’r plât i rywun arall, rhywun nad oedd yn gallu fforddio ei brynu fe.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: