Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 3, 2011

Gwylio’r Mynydd Tân

Rwyf i wedi bod yn cadw golwg ar y gwefannau sy’n dilyn hynt a helynt y mynydd tân tanfor yn Ynysoedd Canarias, El Hierro. Does dim difrod wedi bod hyd yn hyn, ond mae’r ffordd y mae’r peth yn datblygu wedi hala sut ofn ar drigolion La Restinga, y porthladd nesaf at yr echdoriadau, nes eu bod yn dechrau ymadael o’u gwirfodd.

Ddoe, cafwyd echdoriadau o radd 4.4 – 2 ohonyn nhw – yn ddwfn o dan y môr ond y rhai mwyaf ers i’r symudiadau ddechrau nôl ym mis Gorffennaf. Ar yr un pryd mae’r bwrlwm anferth yn dal yn weladwy yn y môr ynghyd â lliwiau newydd melyn a gwyrdd. Ac mae beth mae’r arbenigwyr yn galw’n gryndodau harmonig ‘maximum’ yn cael eu mesuro. Dywed y pysgotwyr bod y pysgod i gyd wedi gadael ardal Las Calmas ac mae mwy o CO2 yn yr awyr na ddylai fod. A does neb yn siŵr iawn beth sy’n mynd i ddigwydd. Y grêd gyffredin oedd taw mynydd tân math ‘Surtsey’ oedd dan sylw, ac y byddai ynys fechan newydd yn cael ei chreu gan echdoriad mawr, pan ddaw hwnnw. Ond yn awr mae ymchwilwyr wedi darganfod cerrig lafa o fath gwahanol ac mae’n bosib taw echdoriad ffrwydrol fydd e.

Petawn i’n byw yn La Restinga, rwy’n siŵr y byddwn innau’n ystyried mynd bant, o leiaf am rai diwrnodau. Yr anwybodaeth sy’n creu ofn.

Diweddaru: Mewn adroddiad newydd ei gyhoeddi, dywed yr awdurdodau na fydd y twnel heol sy’n uno dwy ran El Hierro yn ddiogel os cwyd echdoriad o 4.5 gradd.

Advertisements

Responses

  1. Cyffrous a dychrynllyd yr un pryd…
    Dwi heb fod i’r ynysoedd, ac yn gwybod dim amdanynt, ond dwi wedi bod yn edrych ar Gwgl Earth rwan, ac mae El Hierro yn edrych yn le difyr tu hwnt.

    • Bues i yn Tenerife unwaith, a lan i ben Teide, yr hen fynydd tân yno (mynydd uchaf gwladwriaeth Sbaen os dwi’n cofio’n iawn) . Mae’r planhigion drwy gydol yr ynysoedd yn anhygoel yn eu cynefin garw.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: