Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 4, 2011

Etholiad Sbaen a Helynt Groeg

Diwrnod cyntaf yr ymgyrch etholiadol swyddogol yw hi heddiw yn Sbaen, ac mae maes y gad yn amlwg: yr economi, twpsyn. Ac yn fwy penodol, y diweithdra erchyll sy’n effeithio ar fwy o Sbaenwyr bob mis. Daeth rhifau mis Hydref i fewn yn dangos cynnydd o 134,182 o bobl, sydd yn mynd â’r cyfanswm i 4,360,926. Yn Asturias fach, mae hynny gyfystyr â 100 yn fwy y diwrnod. Beth mae hyn yn ei olygu yw nid yn unig bod angen mwy o arian gan y llywodraeth i gynnal y bobl yma a’u teuluoedd, ond hefyd nad ydyn nhw ddim bellach yn talu nag yswiriant cenedlaethol na threth incwm, felly mae enillion y llywodraeth ganolog ym lleihau yr un pryd ac y mae mwy o ofyn am gymorth.

Yn fras, fe fyddai’r PP yn cadw at bolisi llymdra y PSOE (y llywodraeth bresennol) ac yn ei llymhau. Mae Alfredo Pérez Rubalcaba, arweinydd newydd y PSOE, wedi dweud yn y gorffennol y byddai’n newid pethau i geisio hybu mwy o dŵf economaidd.

A thros y cwbl fel niwl gwenwynig mae cysgod yr hyn sy’n digwydd yn Athen. Yn economaidd dyw Sbaen ddim yn yr un cyflwr, o bell ffordd, ond mae bron i bedwar miliwn a hanner o bobl ddiwaith, ddi-obaith. Hyd yn hyn mae’r mudiadau protest fel y 15-M, y cythruddedigion, wedi bod yn gyfrifol a heddychlon tu hwnt. Ond os bydd y sefyllfa yng ngwlad Groeg a’i effaith ar wledydd eraill yr ewro yn parhau, ac yn gwaethygu, pwy a ŵyr beth ddigwyddith.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: