Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 6, 2011

Byw mewn Gobaith

Anodd yw cynnal fflam gobaith wrth i’r diwrnodau ymgwtogi a’r tymheredd ddisgyn. Mae’r cytundebau sy’n cael eu gwneud, a’u hailwneud, gan arweinwyr gwledydd Ewrop yn ymddangos fel pethau anghysbell, o fyd arall, nad yw’n debyg o gael unrhyw effaith ar ein pentref ni, ar ein cyfeillion ni. Achos fesul un maen nhw’n colli eu swyddi – a does gan eu plant ddim gobaith ddechrau ar yrfa.

Rwyf i wedi bod yn edrych ar y swyddi sy’n cael eu hybysebu yn Asturias, a dyma beth gefais i. Mae nifer helaeth heb fod yn swyddi o gwbl: cyrsiau yw llawer o’r rheiny – cyrsiau cyfrifiadur, iaith Saesneg, ynni haul. Hyd yn oed cwrs ‘o bellter’ mewn gyrru craen porthladd! Wedyn mae’r swyddi sy’n troi mâs i fod yn waith i rywun hunan-gyflogedig: gwerthu, cynghori, dysgu dawns. Ac o’r gweddill, mae llawer yn swyddi rhan amser 2 neu 3 diwrnod yr wythnos, neu 4-5 awr y dydd. Dim digon i gadw teulu.

Mae rhai o’r diwaith yn dodi’u hysbysebion eu hunain ar y we: llond gwefan o swyddogion diogelwch trwyddedig, er enghraifft, a rhai o’r enwau wedi bod yno ers misoedd. Ac mae eraill yn gorfod ceisio un o’r swyddi sy’n llawn-amser ond am gyfnod byr, yn aml iawn gyda thâl misol o ryw €800. Dim digon i gadw teulu, chwaith.

Mae’n mynd i fod yn aeaf hir ac anodd i filoedd. A wellith pan ddaw’r gwanwyn?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: