Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 7, 2011

O’r Ardd: Mwy o Le

Diwrnod diflas o ran y tywydd a’r newyddion: amser delfrydol i edrych ar yr ardd, a’r gweithgareddau fydd, gobeithio, yn gymorth i gynhyrchu mwy flwyddyn nesaf.

Ym mhen pella’r bryncyn, reit yn erbyn y wal sydd rhyngddom ni a’r berllan drws nesaf, mae darn o dir creigiog diffrwyth. Mae chwyn einioes byr yn tyfu yno, ac wedyn yn pydru, felly yn y pocedi bach mae pridd ardderchog, compost bron. Ond oherwydd y garreg galch dyw’r dŵr ddim yn aros ddigon hir i ddim byd y byddem ni eisiau’i dyfu. Dyma mynd ati felly i greu gwelyau bach newydd gyda gwaliau cryf fydd yn dal y pridd da a’r dŵr rhag ufuddhau i ddisgyrchiant a gwres yr haul.

Mae’r gwelyau yma ar yr ochr ddeheuol, a gyda dŵr yn ogystal â haul, fe ddylen nhw fod yn ddelfrydol ar gyfer tomatos. Roedd cymydog wedi llwyddo i dyfu tomatos anhygoel eleni, heb do plastig rhag y llwydni, ond yn eithaf agos  i waliau’r tŷ. Cawn weld os bydd y cynllun yma’n cynhyrchu tomatos cystal. (Rydym ni yn gwybod hefyd lle brynodd e’r planhigion bach: dim ond eisiau mynd i’r farchnad felly a gofyn am yr un rhai a brynodd Manolo’r Saer llynedd, ontefe?)

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: