Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 8, 2011

Canoli Cyfrifoldebau

Dychmyga am funud fod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – ie, a Llundain a gogledd Lloegr hefyd – wedi cael mesur helaeth o ddatganoli 30 mlynedd yn ôl. (Rwy’n gwybod na fyddai Magi fyth wedi caniatau’r fath beth, ond dychmyga…) Dyma ni nawr, yn yr amser a’r byd ariannol fel y mae. Ac mae rhai o awdurdodau’r gweinyddiaethau datganoledig dychmygol yn dechrau meddwl na allan nhw ddim fforddio dal mlân gyda’r holl weithgareddau sy’n ddyledus ganddyn nhw. Maer Llundain yn dweud nad yw e ddim am gael sustem llysoedd ar wahân; llywydd gogledd Lloegr yn sôn yn agored am roi’n ôl yr hawl i bolisiau annibynnol ar y celfyddydau, yr amgylchedd, hyd yn oed yr economi.

Mae hyn yn digwydd yn awr yn Sbaen. Mae e’n digwydd mewn cymunedau awtonomig sy’n cael eu rheoli gan y PP. Mae llywydd Cymuned Madrid wedi datgan yn blaen ei bod hi am gael gwared o’r llysoedd a gadael y cwbl i lywodraeth Sbaen yn ganolog. Mae cymunedau eraill fel Valencia, Murcia, y Castilla-La Mancha, wedi bod yn trafod camau tebyg.Ond mae Catalunya, Gwlad y Basg, ac i raddau llai Galicia, yn pwyso am drosglwyddo mwy o feysydd i’w gweinyddiaethau nhw. Yn enwedig ym myd yr economi.

(Nodyn iaith: nid yw’r Sbaeneg devolver/devolución yn golygu dim byd i’w wneud â datganoli. Dychwelyd, rhoi’n ôl, yw ei ystyr. Yn yr achos yma, y gymuned yn rhoi pwerau mewn meysydd arbennig yn ôl i’r weinyddiaeth ganolog.)

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: