Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 10, 2011

Iaith Ysgolion (a Llywydd) Catalunya

75 o flynyddoedd yn ôl fe gyhoeddwyd llyfr a ddaeth yn fyd-enwog: Sut i Ennill Cyfeillion a Dylanwadu ar Bobl. Mae dal ar werth – a dweud y gwir dyw e erioed wedi bod mâs o brint. Ac os oes yna rhywun yn chwilio am anrheg nadolig i lywydd Catalunya, Artur Mas, efallai taw dyma’r union beth.

Roedd Mas yn siarad yn senedd Catalunya, yn amddiffyn ei bolisi iaith mewn ysgolion: rhaglen drochi yn yr iaith Catalan i bawb, boed wedi ei eni yn Catalunya neu newydd-ddyfodiad. Fel y byddech chi’n disgwyl, mae ‘na bobl sy’n anghytuno, sy’n danfon eu plant i ysgolion preifat er mwyn ei osgoi. Byrdwn ymateb Mas oedd bod disgyblion ysgolion uniaith Catalunya sy’n dysgu Castellano (Sbaeneg) fel iaith fodern yn cael canlyniadau cystal â phlant ar draws holl gymunedau Sbaen. Digon teg. Ond och ac onibai…

Dechreuodd e drwy gymharu canlyniadau Catalunya gyda ‘Salamanca, Valladolid, Burgos’ – dinasoedd y meseta yng nghanol Sbaen lle nad oes iaith leol gref ac y byddai rhywun efallai yn disgwyl clywed Sbaeneg ‘safonol’. Ond aeth e mlân i sôn am ddinasoedd yn Galicia ac Andalucia, lle, yn ei farn ef, ‘ydyn, maen nhw’n siarad Castellano ond mae’n amhosib eu deall nhw’. Mae’r araith ar gael (yn Catalaneg) yma (tua 3.20 i fewn os nad wyt ti eisiau clywed y cwbl).

De a gogledd yn un yn erbyn Mas! Mae e wedi ymddiheuro wrth gwrs ond rhy hwyr. Pam fod ots os yw e’n ypsetio pobl o rannau eraill o Sbaen? Yn etholiadol, am fod cannoedd o filoedd o Andaluces wedi mudo yno ar ôl y rhyfel, ac maen nhw a’u disgynyddion yn pleidleisio yno. Ond ar raddfa ehangach, yn fy marn i, achos nad yw ddim yn ddigon da amddiffyn dy wlad a’i pholisiau drwy ymosod yn bersonol ar eraill.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: