Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 11, 2011

O’r Ardd: Syndod y Clesin

Diben newydd i’r clesin (cwins):

Byddaf yn gwneud cyffaith clesin bob blwyddyn, a’r past trymach membrillo sy’n cydfynd mor hyfryd â chaws. Byddaf yn eu dodi mewn pastai afalau, gyda chabaits coch, ac mewn platiau o gig carw neu faedd gwyllt. Ond eleni, gyda’r rhai oedd newydd ddechrau dangos smotiau o bydru, fe dorrom ni rheina mâs,

malu 'fale ffoto:cathasturias

torri’r ffrwyth yn yr estujadora (y malwr) sydd gan y gŵr at wneud seidr, a’u gwasgu nhw wedyn yn y wasg fach wnes i brynu ar gyfer y ceisiadau aflwyddiannus i gynhyrchu olew o gnau Ffrengig.

y wasg fach ffoto:cathasturias

Syndod! Roedd y sudd yn rhedeg yn glir, ac yn blasu’n felys gyda nodau bach o sbeis. Hawdd iawn ei yfed fel ‘na. Mae unrhyw un sydd wedi blasu clesinen amrwd yn gwybod ei bod yn galed, yn chwerw ac yn asidig: yn amhosib ei bwyta. A gan eu bod nhw mor galed, fyddai eu torri nhw â chyllell, mor finiog y bo honno, ddim yn apelio. Ond i rywun sydd eisiau cynhyrchu sudd naturiol ar raddfa ychydig yn fwy na’r gegin, gobeithio y bydd y disgrifiad yma’n gymorth.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: