Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 12, 2011

Mynd Lan yn y Byd

Rŷn ni gyd wedi bod yno: yn eistedd mewn rhes o geir yn aros i fynd heibio lori-graen sy’n codi gweithiwr i ben postyn lamp. Wel mae dyn o Gijon, Asturias, newydd ennill wobr gan Ymddiriedolaeth 3M am robot bach fydd yn gallu cyflawni’r gwaith uchel heb eisiau lori na chraen. Bydd y Koalabot yn gallu dringo pyst o unrhyw uchder, er mwyn glanhau neu newid lampau neu gamerau, dwrhau potiau blodau, newid posteri ac arwyddion – rhywbeth sydd ar bostyn, meddai’r dyfeisiwr.

Ac mae ef ei hunan yn swnio’n foi diddorol. Gwnaeth Francisco Alvarez ei radd mewn Ffiseg, ac roedd e am arbrofi yn namcaniaeth y maes hwnnw. Ond bu’n rhaid cael swydd o ryw fath, a chyn pen dim roedd e’n arbenigo mewn datblygu rhaglenni ar gyfer cyfrifiaduron. Dim ond wedyn cafodd e gyfle i fynd yn ôl i’r coleg i astudio Peirianneg, a’r Koalabot yw ffrwyth y blynyddoedd hynny.

Dim gair eto a fydd 3M – neu unrhyw gwmni arall – yn datblygu’r Koalabot ar gyfer y farchnad. Ond sdim ots gan Francisco Alvarez, sydd yn barod yn brysur gyda chynllun newydd. Llai ‘waw’ efallai, ond fe all fod dihalwyno dŵr yn fodd pwysig o hybu amaeth mewn ardaloedd sychion.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: