Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 14, 2011

Crio dros y Cyfreithwyr

Dwi ddim yn disgwyl dim sylwadau o gydymdeimlad, neb yn cynnig codi arian ar eu cyfer, neb yn paratoi parseli bwyd….ond mae’n hen bryd inni ystyried dioddefwyr diweddaraf yr argyfwng economaidd yn Asturias. Y notariaid.

Cyfreithwyr yw’r notariaid sydd wedi dewis dilyn eu galwad yn ymdrin â phrynu a gwerthu tai, ewyllysion, cofrestru cymdeithasau o bob math: biwrocratiaeth y gyfraith yn hytrach na’i bwydrau llysol. Y llywodraeth sy’n penderfynu sawl notari sydd, ac ymhle, ac wedyn mae’r sawl cymwysedig yn gallu gwneud cynnig am y swydd. Yn barod mae ‘na 5 ardal yn Asturias sydd heb notari am fod neb yn gweld bod swyddfa yno yn mynd i wneud elw.

Gyda prynu tŷ, mae ffioedd y notari yn dibynnu ar werth yr eiddo; pan brynom ni’r tŷ bu’n rhaid talu €520 i gofrestru’r trosglwyddo, a bron i €200 wedyn pan wnaethom ni’r estyniad. Y drefn oedd ein bod ni, a’r wraig oedd yn gwerthu’r tŷ, yn mynd gyda’n gilydd i’w swyddfa ac yn gwrando arno’n darllen yr holl ddogfen ac yn rhoi sêl arni, cyn iddi roi’r allweddi inni. Yn awr, nid yn unig y mae gwerth yr eiddo wedi disgyn, ond mae nifer y gwerthiannau i lawer i bron i hanner yr hyn oedden nhw cyn y cwymp. Ac mae’r notariaid yn cwyno hefyd am ffioedd digyfnewid fel cofrestru a chyhoeddi ewyllys: dydy’r rheiny, medden nhw, ddim wedi codi ers ugain mlynedd.

Fel wedais i ar y dechrau, dwi ddim yn disgwyl i neb i lefain. Ond fe fyddai’n drueni petai pobl yn y dyfodol yn gorfod teithio ymhellach i wneud pethau angenrheidiol ar gyfnodau  anodd yn eu bywyd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: