Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 15, 2011

Bwydo’r Fwlturiaid

Nid yn aml y mae penderfyniad gwleidyddwyr yn cael ei gymeradwyo gan naturiaethwyr a ffermwyr: ond heddiw mae pawb yn hapus. O hyn ymlaen ni fydd rhaid i fugeiliaid ddod ag anifeiliaid marw i lawr o’r porfeydd mynyddig i gael eu difa mewn llosgdy. Ddeng mlynedd yn ôl y dechreuodd y rheol yma, yng nghanol y poeni mawr am glefyd y gwartheg gwallgof (BSE). Beth yw’r sefyllfa yng Nghymru nawr?

buwch wedi cael anaf ffoto:cathasturias

Rai blynyddoedd yn ôl, wrth gerdded o Lyn Enol i Vegaredonda, fe welsom ni’r fuwch hon oedd wedi torri’i choes. (Ac efallai’n waeth na hynny: roedd y gwartheg eraill yn edrych arnom ni’n ffyrnig ac nid oedd yn bosib agosáu ati.) Pan gyrhaeddom ni’r cwt yn Vegaredonda, ac adrodd yr hanes wrth y warden, fe aeth e’n syth ar y ffôn, ac erbyn inni ddod i lawr ar ôl y daith gerdded roedd grŵp o ddynion â dryll yn dringo’r llethrau i ladd y creadur a symud y corff.

Roedd clirio’r cyrff yn newyddion drwg iawn i’r anifeiliad ac adar hynny sy’n bwyta celain: y fwlturiaid yw’r mwyaf niferus (ac wedi arbenigo), ond mae bleiddiaid, llwynogiaid ac eirth yn fodlon bwyta celain diweddar pan fydd ar gael. Mae’r ffermwyr felly ar eu hennill yn ddwbl: nid yn unig sdim rhaid dringo i nôl y cyrff ond mae’n debyg y bydd yna lai o ymosod ar y preiddiau. Ac mae’r naturiaethwyr yn hapus oherwydd y bydd y gadwyn faethol naturiol yn cael ei hadfer.

Sdim llawer o newyddion da yn Sbaen y dyddiau yma, felly diolch am hwn.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: