Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 18, 2011

Bleiddiaid ar Grwydr

Heddiw ar fynyddoedd y Cuera, rhwng y Picos de Europa a’r môr, bydd dynion yn mynd mâs i hela bleiddiaid. Na, dyw’r gyfraith ddim wedi ei newid: dyw’r blaidd ddim eto ar restr yr anifeiliaid heladwy. Am y tro cyntaf mewn pum mlynedd, mae bleiddiaid wedi eu gweld ar y Cuera, gan fugail ifanc oed yn gofalu am ei ddiadell. Yn ardal Torneria, am 6 o’r gloch y nos, adeg y machlud haul, fe ddaeth ar draws pâr o fleiddiaid mewn oed, oedd meddai fe ‘heb ddangos ofn o gwbl’.

Daeth ffermwyr yr ardal ynghŷd i drafod y peth, a chael bod nifer ohonyn nhw wedi colli defaid a geifr ers dechrau mis Hydref. Aed ati yn syth i gael caniatad i gynnal batida, mynd mâs yn grŵp i gael hyd i’r anifeiliad a’u saethu nhw. Dyw mynyddoedd y Cuera ddim yn rhan o Barc y Picos, felly does dim gwaharddiad ar ladd bleiddiaid os ydyn nhw’n lladd da byw. Dywed rhai taw’r rheolau diogelwch yn y Parc sy’n gyfrifol am gynyddu nifer y bleiddiaid fel bod rhai ohonyn nhw’n gorfod chwilio am rywle arall i fyw.

Sierra del Cuera, yn edrych tua'r gogledd

Ond yn ôl un o’r ffermwyr mae rhywbeth od am y bleiddiaid yma. Fe’u gwelwyd ar ochr ogleddol y Cuera, ac yno hefyd y mae’r defaid wedi cael eu lladd. Petaen nhw wedi dod o’r Picos, bydden nhw wedi cyrraedd llethrau deheuol y Cuera, lle mae ‘na ddigon o dda byw – ond does neb yno wedi colli’r un. Roedd e hyd yn oed yn awgrymu bod rhywun wedi gadael y ddau flaidd yn rhydd. Anodd credu, ond anodd derbyn chwaith eu bod nhw wedi mynd heibio cannoedd o ‘brydau byw’ a chroesi milltiroedd o dir er mwyn cyrraedd Torneria.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: