Yfory bydd bron i 36 miliwn o etholwyr Sbaen yn cael cyfle i fwrw pleidlais a allai newid lliw eu llywodraeth a’r ffordd y mae’r llywodraeth honno yn ymateb i’r argyfwng economaidd. Nos yfory byddwn yn gwybod pwy sydd wedi ennill y pleidleisiau, ond mae’n eithaf posib na fydd yn amlwg pwy sydd wedi ennill yr etholiad, onibai bod y PP (adain dde, dros undod Sbaen) yn ennill mwyafrif absoliwt. Does neb yn disgwyl i’r PSOE (sosialwyr, dros undod Sbaen ond yn edrych yn fwy ffafriol ar beth mae Catalunya a Gwlad y Basg eisiau) ennill eto: efallai nad arnyn nhw y mae’r bai am y cwymp a’r diweithdra ond nhw sydd wrth y llyw.
Mae’r cythruddegion, yr indignados yn y stryd, wedi galw ar etholwyr i ddewis un o’r pleidiau llai, gan gyhuddo’r PP a’r PSOE o weithio gyda’i gilydd i gadw’r hen gyfundrefn ar ei thraed. Ac mae’n siŵr y bydd y teimlad ‘gwrth-y-rhai-sydd-yno-nawr’ yn arwain at fwy o seddi i’r pleidiau cenedlaethol a thaleithiol; nid yn unig yn Catalunya a Gwlad y Basg ond yn Galiza, yr Ynysoedd Dedwydd, a’r tro yma hyd yn oed yn Asturias lle mae Foro Cascos yn sefyll. Yng Ngwlad y Basg, gyda llaw, mae ‘na enw newydd eto i’w gofio: cyfuniad yw Amaiur o Bildu, wnaeth gystal yn yr etholiadau trefol, a phlaid genedlaethol adain chwith o Navarra.
Does ‘na ddim ymgyrchu heddiw: diwrnod o fyfyrdod yw hi yn y calendr etholiadol, a bydd yr ymgeiswyr yn ail-gyfarfod â’u teuluoedd, yn gwylio pel-droed neu’n mynd am dro, yn ôl beth mae rhai wedi bod yn dweud wrth y cyfryngau. Ac un ystadegyn bach arall: fe wariodd y llywodraeth 6% yn llai ar yr etholiad hwn nag ar yr un blaenorol.
Gadael Ymateb