Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 21, 2011

Drannoeth Etholiad Sbaen

Pawb yn gwybod erbyn hyn bod gan Sbaen lywodraeth newydd, llywodraeth adain dde-ganol. Fe gollodd y PSOE, y sosialwyr oedd wedi bod wrth y llyw drwy gydol yr argyfwng economaidd,  4m o bleidleisiau; fe enillodd y PP dim ond hanner miliwn o’i gymharu â 2008. Ond fe enillodd y PP ddigon o seddi i gael mwyafrif absoliwt yn y Cortes (fel y Tŷ Cyffredin yn y DU).

Dim ond yn Catalunya a Gwlad y Basg y mae pethau’n wahanol, yn wahanol iawn. Mae CiU, y blaid genedlaethol adain-dde sydd mewn grym yn senedd Catalunya, wedi ennill 16 0 seddi ar y llwyfan Sbeinig, a’r ERC, eu gwrthwynebwyr sosialaidd, 3. Yng Ngwlad y Basg, aeth 7 o seddi i Amaiur, clymblaid genedlaethol adain-chwith oedd ddim yn bod tan yn ddiweddar iawn, a 5 i’r hen Blaid Genedlaethol (y PNV). Mae’r hyn sy’n cael ei alw yn ‘espacio nacional’ (lle – neu fwlch, efallai – cenedlaethol) y ddau le wedi agor, wedi ymestyn, a hynny’n hollol i’r gwrthwyneb o beth mae’r PP yn credu ynglŷn â chenhedloedd llai y penrhyn Iberaidd.

Cyn yr etholiad hwn, roedd Asturias yn danfon 4 aelod yr un o’r PP a’r PSOE i senedd Madrid (ar yr un raddfa poblogaeth byddai gan Gymru 24 AS.) Mae’r PP wedi colli un i Foro Asturias (plaid daleithiol adain-dde Cascos), a’r PSOE wedi colli un i IU (clymblaid y Comiwnyddion a’r Gwyrdd). Diddorol cofio enw aelod seneddol diwethaf y comiwnyddion yn Asturias: Dolores Ibarruri, la Pasionaria. A dweud y gwir fe fu’n aelod ddwywaith, unwaith yn ystod y weriniaeth, cyn Rhyfel Sbaen, ac eto yn y saith-degau ar ôl marwolaeth yr unben Franco.

Ychydig o effaith a gafodd yr indignados ar y canlyniad. Yn awr rhaid aros i weld beth mae llywodraeth Mariano Rajoy yn mynd i dorri, a beth fydd adwaith hapfasnachwyr y farchnad arian a dyled. Ac wedyn, sut un fydd y perthynas rhwng ei lywodraeth ganolig ef â’r bobl sydd eisiau (mwy o) ymreolaeth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: