Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 25, 2011

Torri, Trethi, Teledu

Mae datganoli yn Sbaen wedi mynd llawer ymhellach nag yn y DU, ac mae gan y llywodraethau cenedlaethol/taleithiol felly fwy o rym a mwy o gyfrifoldeb. Yn awr gyda’r PP wrth y llyw yn Sbaen drwyddi draw, ac yn galw am doriadau llym ar ran y cymunedau awtonomig, mae pethau’n dechrau datblygu. Fe aeth y prif weinidog newydd, Mariano Rajoy, i gwrdd ag uchel fancwyr heddiw, ac yn siŵr nid cynlluniau i wario arian fydd yn dod o hwnnw.

Yn Catalunya, er enghraifft, lle mae CiU, plaid adain-dde Catalan, wedi llywodraethu ers dros flwyddyn, maen nhw ar eu hail rownd o dorri. A’r tro yma, y teledu fydd yn ei chael hi. Mae’r llywodraeth am gael gwared ar ddwy o’r 6 sianel cyhoeddus sydd yno, ac mae’r cwmni teledu wedi ymateb drwy ddweud bod hynny’n bygwth dyfodol rhaglenni chwaraeon yn yr iaith Catalaneg, ac yn enwedig y pêl-droed.

Ar y llaw arall, ac yn wahanol i’ r rhan fwyaf o bleidiau adain-dde, mae CiU am godi trethi. Nid ar y werin bobol, ond ar ddiwydiannau sy’n gwneud elw, ac ar dwristiaeth yn benodol. Byddai hynny yn eu galluogi i dorri €8m o gyllideb eu hadran dwristiaeth – treian o’r hyn mae’n ei dderbyn ar gyfer denu pobol i Catalunya. Rhaid dweud bod Ynysoedd y Baleares wedi gwneud rhywbeth tebyg ddeng mlynedd yn ôl, gyda’r bwriad yn yr achos hwnnw o wella’r amgylchfyd, ond methiant fu.

Ac yn Asturias? Wel byddai llywodraeth Foro Asturias yn hoffi torri llawer o bethau, ond lleiafrif ydyn nhw yn y senedd. Y diweddaraf yw bod y tair plaid arall wedi dod at ei gilydd i geisio achub sianel deledu Asturias. Mae gen i syniad y byddaf yn blogio mwy am yr hen doriadau yma.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: