Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 27, 2011

Sul Tawel

Codi’n hwyr a gwneud ychydig fu hanes heddiw ar ôl noson hwyr iawn yn y fiesta yn Llames. Yn gyntaf cynhaliwyd y chwaraeon cefn gwlad: gornest ceffylau’n tynnu car llusg yn dwyn yr un pwysau â’r anifail; ras â chaniau llaeth (na. dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio rhagor); a thynnu rhaff – cystadleuthau i bob oedran!

Wedyn tipyn o fwyd yn y babell oedd wedi ei chodi reit ar draws yr heol yng nghanol y pentref, digon o seidr a dawnsio tan yr oriau mân. Cyfeillion wedi dod o bell ar gyfer yr achlysur, a da eu gweld eto. Uchafbwyntiau’r noson: crwt yn marchogaeth drwy’r babell a’r dawnswyr yn gorfod ymwahanu i wneud heol iddo; a gweld Orion yn grisial uwch ein pennau wrth gerdded adref.

Y bore ma bues i yn y gegin yn gweithio cyffaith clesin (cwins) am awr neu ddwy. Rwy’n dwli gweld lliwiau gwahanol y ffrwythau yn disgleirio drwy’r gwydr, yn felyn ac oren a phinc.  Erbyn y prynhawn  roedd hi wedi cymylu, a’r môr cryf wedi denu pysgotwyr i’r clogwyni.

 

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: