Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 28, 2011

Rhyfeddod y Lasagne

Prin deufis ers imi ddechrau gwneud y ‘gwely lasagne’ yn y lleuarth, i fwydo’r pridd a’i gadw’n ddiddos dros y gaeaf. Ond roedd y gŵr yn dechrau poeni na fyddai’r haenau o garbord yn pydru ac y byddai’n waith trwm iddo eu palu i fewn yn y gwanwyn. Iawn, meddai fi, wna’i balu un cornel o’r gwely cyntaf wnes i,  cael gweld beth sy’n digwydd.

gwely lasagne ffoto:cathasturias

Cofia nad yw hi ddim wedi bwrw glaw braidd yn ystod y deufis, er bod y gwlith rhai boreau’n drwm ar y gwair. Roedd yr haenau o garbord, gwair newydd ei dorri a dail wedi suddo rywfaint, ond pan godais i gornel y ‘lasagne’ – dim carbord. I lawr hyd rhaw, dim carbord. Ac roedd yr haenau is o wair a dail wedi diflannu hefyd. Dim ond y dail diweddar a weli di nawr, a’r hen glai odditano wedi troi’n bridd tywyll (da, gobeithio).

Fel hyn oedd hi ddeufis yn ôl: anhygoel pa mor glou mae byd natur yn gallu gweithio weithiau. Buaswn yn tybio bod gan y mwydod ran bwysig yn y broses.  A dim chwyn chwaith!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: