Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 29, 2011

Caeau Colledig

Rwyf i wedi sôn o’r blaen am y caeau anghofiedig, llawn mieri, o gwmpas pentrefi Asturias; yn aml iawn oherwydd y gyfundrefn etifeddiaeth sy’n rhannu tir ymysg yr etifeddion (rhywbeth debyg i’r hen ffordd Gymreig ganol-oesol o wneud pethau). Ond tan heddiw ni wyddwn bod cymaint â chan mil hectar – un o bob deg o diriogaeth Asturias – yn wag am na ellir ei rannu oherwydd y ffordd y cafodd ei brynu yn y lle cyntaf.

Roedd y tir hwn – drwy Sbaen gyfan – yn eiddo un ai i’r Eglwys Gatholig neu i un o’r urddau mynachaidd, fel arfer wedi dod iddyn nhw yn rhodd. Doedden nhw’n gwneud dim byd ag ef, felly yn ystod y 19eg ganrif fe basiwyd deddf yn gorfodi gwerthu tir y ‘dwylo marw’. Ond am ryw reswm cyfreithiol gymhleth nid oedd yn bosib rhannu’r tir a brynwyd ar farwolaeth y perchennog newydd. Ganrif yn ddiweddarach, mae’r effaith i’w weld yn glir. 

Rhai o’r caeau yn cael eu gweithio, eraill wedi mynd i ebargofiant. Y syniad yn awr yw bod perchnogion o leiaf deg cae yn ymyl ei gilydd yn apwyntio rhywun i weithio’r caeau ar ran ‘cyngor y perchnogion’. Fel hyn ni fydd rhaid ceisio rhannu’r caeau rhwng unigolion, ond fe fyddan nhw o fudd nid yn unig i etifeddion yr hen brynwr ond i sefyllfa amaethydddol Asturias yn gyffredinol. Ac os bydd y mieri ac ati’n cael eu clirio, dylai fod llai o danau mynydd hefyd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: