Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 30, 2011

Dim Croeso i’r Cymydog Newydd

Dyna lle’r oeddwn yn tynnu mŵts i ar ôl bore yn yr ardd, pan gyrhaeddodd cymdoges. Ac roedd ei newyddion yn fy syfrdanu: nos Sul, neu ben bore Lun, roedd baedd gwyllt wedi bod yn tyrchu yn ei gardd hi, yn palu lan y lawnt o flaen y tŷ!

Erbyn hyn roedd hi wedi dodi pethau nôl ac yn gobeithio y byddai’r gwair yn aildyfu. Beth oedd hi eisiau gwybod yn awr oedd sut yr oedd yr anifail wedi cyrraedd y lawnt, gan bod ei chlwydi hi ar gau gyda’r nos. Aethom ni i chwilio lle mae gwaelod ei pherllan hi yn ffinio â’n tir ni:

Ar ôl 2 ddiwrnod, a noswaith o law neithiwr, doedden nhw ddim yn glir iawn, ond hôl traed mochyn ydyn nhw, yn anelu am ei lawnt. Fel arfer dydy’r baeddiaid ddim yn dod yn agos i bobl, a dydyn nhw ddim chwaith yn mynd o gwmpas ar eu pennau’u hunain: efallai taw un ifanc oedd hwn wedi ei wahanu oddi wrth y teulu.

Ond mae ‘na filoedd ohonyn nhw yn Asturias, o feddwl faint sy’n cael eu saethu bob blwyddyn gan yr helwyr. A nawr ein bod yn gwybod bod o leiaf un wedi symud i fewn i’r pentref,  efallai bydd rhaid inni wneud rhywbeth i’w rhwystro nhw rhag ddod i fewn o’r llwybr bach yn y cefn.

(Gyda llaw, ydy’r gair tyrchu yn dod o twrch?)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: