Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 1, 2011

Blodau Rhagfyr 2011

Diwrnod anhygoel arall o haul a gwres. Mae gwneud gorchwyl gaeafol fel torri nôl llawrwydd a mieri heb fod yn oer ac yn wlyb yn brofiad da; ond maen nhw’n addo glaw trwm heno felly mae’n bosib y bydd ein hydref hirfelyn ar ben. Heddiw, fodd bynnag, es i o gwmpas yr ardd yn nodi beth sy’n blodeuo ar ddiwrnod cyntaf Rhagfyr.

Mae rhai o’r rhain yn blanhigion cynefin, neu chwyn, ac eraill wedi eu plannu heb feddwl y bydden nhw’n blodeuo cyhyd.

Abwtilon, arabis, blodau neidr, briallu, canna, dant y llew (er gwaetha’m holl ymdrechion), fuchsia, gazania, geramiwm, glas yr ŷd, gold yr ŷd, hebe, iorwg, jasmin y gaeaf, lemwn, llygad y dydd, marddanadl, mefus (ond sa’i’n credu wnewn nhw ffrwytho), physalis, rhosmari, rhosyn, salvia, yucca. 23 o wahanol flodau!

A dyma’r pertaf, yn fy marn i:

rhosyn Rhagfyr ffoto:cathasturias

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: