Nawr bod y PP mewn grym yn y llywodraeth ganolog, a Mariano Rajoy yn brif weinidog, mae’r cymunedau awtonomig lle mae’r un blaid yn rheoli yn cyhoeddi toriadau llymach fyth. Yn Castilla-La Mancha, bydd gweision suful yn gweld toriad o 3% yn eu cyflog. Yno hefyd byddan nhw’n ceisio arbed arian wrth gael cwmniau preifat i redeg ysbytai.
Ac fe ddaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg yr holl ffordd i Madrid i longyfarch Rajoy ar ennill yr etholiad a’i annog i dorri mwy, yn ôl hanes yn y papurau heddiw.
Dal i godi mae nifer y di-waith. Mae wedi cyrraedd cyfanswm record newydd o 4,420,462 o bobl yn Sbaen; 88,853 yma yn Asturias.
Dal i aros ydym ni i weld beth fydd tynged CAM, un o’r banciau cynilo fethodd oherwydd y cwymp yn y diwydiant adeiladu tai.
Bydd palas a brynwyd gan gyn-lywydd Ynysoedd y Baleares, Jaume Matas, (PP) yn cael ei werthu mewn ocsiwn er mwyn talu nôl ei forgais o €3 miliwn. Mae ef ei hun yn wynebu 8 mlynedd o garchar ar achosion o lygredd yn ymwneud ag adeiladu.
Ar i fyny ychydig bach mae’r gyfnewidfa stoc (la Bolsa). Yn ystod yr wythnosau cythryblus diweddaraf bu bron iddi ddisgyn i lefel argyfwng 2009.
Ac mae’r tymheredd yma yn Asturias wedi cwympo bron i 10 gradd dros nos, felly pawb yn hapus!
Gadael Ymateb