Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 3, 2011

Talu am Brydferthwch Natur

Syniad newydd (yn yr ardal hon) fyddai codi arian ar yrwyr car i ddefnyddio heol fynyddig o fewn y Parc Cenedlaethol. Mae wedi dod i’r amlwg yn ystod y trafodaethau ar heol Llynnoedd Enol ac Ercina, prif atyniad y Picos de Europa i bobol sydd ddim yn dod yma i gerdded neu ddringo. Mae’r heol ar gau i geir preifat eto drwy’r wythnos hon, oherwydd y gwyliau cyhoeddus ar y 6ed a’r 8fed sydd fel arfer yn sbarduno pobl i gymryd yr wythnos gyfan a mynd bant.

€1 y car i bawb o bant. Mae’n edrych yn awgrym digon diniwed. Ond at beth fyddai’r arian yn mynd? Y syniad yw y byddai’n gymorth i’r cynghorau lleol i wneud y gwaith sydd ei angen (heolydd, goleuadau, sbwriel) ar hyd heol hir wledig. Rwy’n amau y byddai’n ormod o demtasiwn i gynghorau yn y dyfodol: ychwanegu at y doll yn ffordd hawdd iawn o godi arian heb gynyddu trethi’r etholwyr.

A phwy yw’r ‘bobl o bant’? Rheiny sydd yn dod o’r tu hwnt i ffiniau Cangas de Onis a’r cynghorau eraill sydd â thiroedd o fewn y Parc? Neu sy’n dod o’r ochr draw i Afon Sella? Neu o du fâs i Asturias, neu Sbaen?

Mae cynllun tebyg yn bod yn barod ar gyfer y rheilffordd fynyddig i bentref Bulnes, yn rhan ddwyreiniol y Picos. Yno, mae trigolion y pentref yn unig yn teithio am ddim, a phawb arall yn talu drwy’r trwyn, hyd yn oed trigolion Arenas de Cabrales 5km i ffwrdd. Ond cwmni trafnidiaeth sy’n ei redeg, ar gytundeb gan lywodraeth Asturias, felly er ei fod yn uchel mae’r pris yn cael ei reoli.

Llyn Ercina ffoto:cathasturias

Parc i bawb ddylai hi fod, a phan fydd rhaid trwsio’r heol, y parc (h.y. y llywodraeth, h.y. pawb ohonom ni) ddylai dalu. Does gyda fi ddim byd yn erbyn gofyn i ymwelwyr am roddion: rwy’n siŵr y byddai llawer ond yn rhy fodlon cyfrannu at gadw gwylltir y Picos de Europa fel y mae.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: