Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 5, 2011

O’r Gegin: Cawl Pwmpen

Y pwmpen butternut rwy’n ei feddwl: mae gyda ni gymaint ohonyn nhw eleni (60 ar y cyfrif olaf) fel y byddwn yn eu bwyta nhw tan fis Mai.

Mae blas y bwmpen hon, er ei bod yn felys, braidd yn undonog, felly mae angen ychwanegu digon o sbeis a/neu berlysiau i ddenu pobl i’w bwyta. Dyma’r hyn ddewisais i heddiw, gan ei fod yn ddiwrnod gwlyb a braidd yn oer.

pwmpen tua 1kg

50g menyn

llond dwrn o sialots a 2 arllegyn, ynghyd â moronen a ffon fach o helogan ( seleri)

maint dy fawd o sinsir ffres

200ml llaeth

1l stoc llysiau

pupur cayena a nytmeg (gair Cymraeg, unrhyw un?)

 

Rhoi’r menyn mewn sosban fawr ar dân isel. Twymo’r menyn ac ychwanegu’r sialots wedi eu malu’n fân. Ar ôl 5 munud, pan fyddan nhw’n feddal, ychwanegu’r garlleg a’r sinsir, eto’n fân iawn. Wedyn y foronen a’r helogan, ie, yn fân. Halen, os bydd eisiau, a phupur cayena – dim gormod.

Cymryd y bwmpen, tynnu’r croen a’r hadau, a’i thorri’n ddarnau tua 2cm o sgwâr. Ychwanegu rheiny at y cymysgedd, rhoi clawr ar y sosban a gadael y cwbl am 10 munud. Twymo’r llaeth gyda’r nytmeg wedi ei ratio, a thwymo’r stoc. Sdim eisiau ychwanegu dim byd oer at blât twym ar hanner ei wneud. Ychwanegu’r hylif a choginio’r cwbl ar dân isel am 20-30 munud. Gyda lwc bydd y bwmpen wedi meddalu gymaint, bydd yn bosib ei stwnso gyda stwnsydd tato, yn y sosban. Neu os am gawl llyfn iawn, dodi’r cwbl yn yr hylifydd.

Byddai sbeisiau eraill yn gwneud y tro, cyhyd â’u bod nhw’n rhai twym a melys.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: