Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 7, 2011

O’r Ardd: Pryd i Docio Coed

Fel arfer byddem ni’n dechrau ar y gwaith o docio ddechrau mis Rhagfyr; mae cymaint o goed ffrwythau gyda ni nawr, dyna’r unig ffordd i wneud y cwbl heb deimlo nad wyt ti ddim wedi gwneud dim byd arall ers wythnosau. Fesul bore neu brynhawn, gydag un rhan o’r berllan wedi cwpla, mae rhywun yn teimlo ei fod wedi cyflawni rhywbeth.

Ond dwi ddim yn siŵr beth i wneud eleni, a hynny achos y tywydd rhyfedd rydym ni wedi ei gael ers dechrau Medi. Heddiw, welais i 2 pili-pala melyn lliwgar, gwenynen fawr a madfall. Ac mae’r coed hefyd fel petai’r gwanwyn ar y gorwel yn lle fisoedd i ffwrdd drwy gwaetha’r gaeaf.  Mae deilflagur y goeden ffigys yn dew ac yn dangos lliw; dyw hanner y coed afalau ddim wedi boddran colli dail; a’r coed afocados bach yn edrych fel eu bod nhw yn eu cynefin yng nghanolbarth America.

Dyna’r broblem felly: o dorri nôl yn awr, â’r pren yn las ac yn llawn sug, oni fyddwn ni’n anafu’r coed? Yn eu gadael yn agored i bob math o haint pan ddaw’r tywydd oer? Neu a fydd y brigau main yma’n dioddef ta beth, ac felly gwell cael gwared nhw cyn yr oerfel?

Byddwn yn falch iawn o dderbyn unrhyw awgrymiadau, ond rwy’n credu taw tocio ychydig o goed yn awr a wnawn ni, a gadael y rhan fwyaf tan y flwyddyn newydd.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: