Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 8, 2011

Trydan y Môr

O’r diwedd! Bydd y sawl sydd wedi darllen y blog yma ers tro yn gwybod fy mod o ganol fy anymwybodaeth llwyr wedi gofyn pam nad oedd neb wedi manteisio ar rym y môr wrth iddo gyrraedd arfordir Asturias a thiroedd eraill gogledd Sbaen.

Ynni'r Môr ffoto:cathasturias

Mae pŵer y tonnau, llif y môr a’r gwynt yn dod at ei gilydd, hyd yn oed yn ein bae bach ni, yn ynni dychrynllyd a allai ddinistrio cwch neu bysgotwr. Ac ychydig i’r gorllewin, yn ardal Luarca, lle mae Cabo Penas yn ymestyn yn fwy i’r gogledd nag unman arall yn Asturias, mae prifysgol Oviedo yn mynd i godi gorsaf wyddonol 2.5km mâs yn y môr.

Yma fe fyddan nhw’n ymchwilio i symudiadau a nerth y dŵr a’r gwynt, o safbwynt cynhyrchu trydan yn ogystal â ffermio pysgod a bwyd môr. Y disgwyl yw y bydd cwmniau sydd â diddordeb yn y naill neu’r llall yn rhentu peth o gyfleusterau’r orsaf. Ac nid cynhyrchu trydan yn unig, ond sut i’w gadw fe, a’i symud e i le mae ei eisiau.

Nid dyma’r tro cyntaf i ynni gael ei gynhyrchu ym môr y Cantabrico; mae gan gwmni enfawr Iberdrola brosiect ers blwyddyn neu ddwy. Ond o beth yr wyf wedi darllen yn ddiweddar, maen nhw ‘nawr yn canolbwyntio ar weithgareddau tebyg yng ngogledd yr Alban.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: