Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 10, 2011

Adar, Ymwelwyr a Cheir

Enghraifft newydd heddiw o’r gwrthdaro sy’n gallu bodoli rhwng gwahanol fuddiannau, hyd yn oed yn yr un maes.  Neu efallai y dylwn i ddweud, o’r gwaith gweu cymhleth sydd ei angen os yw pawb yn mynd i gael y mwyafrif o’r hyn yr oedden nhw’u heisiau.

Mae aber yr afon Sella yn un o’r llefydd gorau yn Asturias i bobl sy’n dod i weld adar. Mae tua 2km o’r afon o fewn cyrraedd llanw a thrai, ac 1km yn llydan iawn ac yn cynnwys traethelli lleidiog. Dyw e ddim yn edrych yn bert iawn ar adeg y trai ond mae’r adar yn heidio yno i chwilio am fwyd.

OK, dyw’r llun yma ddim yn dangos haid, ond dyma’r math o le yw e. A lle roeddwn i’n sefyll i dynnu’r llun, heol fach a llefydd parcio i ogof ac oriel Tito Bustillo, gyda’r darluniau hynaf a welwch chi’n unman. Sut i gydlynu’r pethau hyn, fel bod ymwelwyr yn gallu cyrraedd yr ogof, neu wylio’r adar, ac ar yr un pryd diogelu’r adar hynny, yn enwedig yn ystod amser nythu?

Mae’r cynlluniau ar gyfer llwybr troed ar lan y rhan hon o’r afon wedi bod yn ôl ac ymlaen sawl gwaith rhwng cyngor Ribadesella ac Adran Amgylchedd llywodraeth Asturias yn ystod y 2 flynedd diwethaf; yna, fe aeth popeth yn dawel. Ond yn awr mae’r naill ochr a’r llall ar y cyngor wedi dechrau dod mâs a dweud gymaint maen nhw eisiau’i weld e’n cael ei adeiladu. Dim eleni, wrth reswm. Ond flwyddyn nesaf?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: