Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 11, 2011

Pigion Diweddaru

Mae Iñaki Urdangarin, dug Palma a mab-yng-nghyfraith brenin Sbaen, wedi cyflogi cyfreithiwr sy’n arbenigwr mewn cyfraith troseddau a phrosesau’r llys. Hyd yn hyn does yr un cyhuddiad ffurfiol wedi ei ddwyn yn ei erbyn, ond mae’r barnwr erlyn wrthi’n paratoi achos yn ymwneud ag arian (mawr) a dalwyd i fewn i gyfrifon preifat y dug o gronfeydd elusen yr oedd yn noddi.

Mae bugeiliaid mynyddoedd y Sueve wedi dilyn ffermwyr y Cuera yn cwyno am flaidd – neu gi gwyllt – sydd yn ymosod ar anifeiliaid ers rai misoedd. Ond maen nhw hefyd yn codi pwynt diddorol am yn newidiadau sydd ar droed i Bolisi Amaeth Cyffredin Ewrop. Os bydd y taliadau yn cael eu pennu fesul hectar, sut mae ymdopi â’r tiroedd mynyddig lle nad yw’r bugeiliaid yn berchnogion tir ond mae gyda nhw’r hawl yn gyffredin i fynd â’u da byw i bori yno.

Canlyniadau diddorol a thra gwahanol mewn pôl piniwn ynglŷn â’r broses heddwch yng Ngwlad y Basg. Yno mae dros 75% yn credu bod yr ymgyrch derfysgar drosodd; yng ngweddill Sbaen, llai na 60%.  Ac mae’r agendor ar gwestiwn pwysig iawn ynglŷn á’r dyfodol – a ddylai llywodraethau Sbaen a Ffrainc gynnal trafodaethau gyda (gweddillion) ETA: mae 73.2% o’r Basgwyr yn credu y dylen nhw, a dim ond 41.3% o Sbaenwyr yn cytuno. Beth fydd ymateb y prif weinidog newydd?

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: