Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 12, 2011

Dod â’r Drwg i’r Amlwg

O dipyn i beth ac wrth gymryd camau plentyn dyflwydd, mae dosbarthiadau uchaf cymdeithas Sbaen – y rhai sy’n teyrnasu – yn gorfod ildio i ofynion yr oes fodern am drylowder mewn bywyd cyhoeddus. Mae’r dyddiau pryd yr oedden nhw’n gallu bihafio – a chamfihafio – fel a mynnon wedi dod i ben.

Heddiw, fe gyhoeddodd swyddogion brenin Sbaen na fydd ei fab-yng-nghyfraith Iñaki Urdangarin yn cymryd rhan mewn diwyddiadau cyhoeddus ar ran y teulu brenhinol. Aed mor belled â dweud nad yw ei ymddygiad ef  ‘wedi bod yn ddlefrydol’ – a hynny cyn iddo wynebu’r un cyhuddiad ffurfiol ynglŷn â’r arian a dalwyd gan lywodraeth Ynysoedd y Baleares i elusen a sefydlodd ef, ac oddi yno i’w gyfrif personol. Fe dybiwn i taw’r unig beth y bydd Urdangarin yn gweld ei golli o ran y digwyddiadau cyhoeddus hyn fydd y Gemau Olympaidd, gan ei fod ef wedi bod yn aelod o dîm llawbel Sbaen yng ngemau Barcelona, Atlanta a Sydney.

Ac fel y dywed pobl fan hyn ‘Es mas,’ (mae mwy i ddod): am y tro cyntaf erioed, bydd rywfaint o eglurhad eleni ar sut y mae’r teulu brenhinol y ngwario’r €8.4m y mae’n derbyn bob blwyddyn o arian y dreth. Mater o ‘benawdau ac isbenawdau’ fydd hi, nid eitemau unigol. Ond mae’n ddechreuad.

Heddiw hefyd, mae cyn-lywydd cymuned awtonomaidd Valencia, Francisco Camps, yn ymddangos gerbron llys ar gyhuddiadau o lygredd. Tamaid i aros pryd yw hwn, yn ymwneud â derbyn dillad gan aelodau cynllwyn Gurtel , cynllwyn a ddaethpwyd i’r amlwg 2 flynedd yn ôl ac sy’n golygu gwe o lygredd ynghylch adeiladu, cynllunio, dylanwadu drwg a thwyll ariannol.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: