Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 13, 2011

Tonnau Gwylltion

Lluniau’r môr eto heddiw, heb unrhyw ymddiheuriad nac esgus. Roedd y lliw a’r sŵn, nerth y tonnau’n eu towlu’u hunain yn erbyn grym y clogwyni, yn well nag erioed.

tonnau'r Guadamia foto:cathasturias

Diwrnod mwyn, tua hanner dydd, yr haul yn disgleirio a’r awel o’r gorllewin. O ble mae’r nerth yn dod oedd yn hala’r tonnau i’w difrod reit ar hyd arfordir Asturias?

tonnau Castro Arenes ffoto:cathasturias

Achos nid yng ngheg y bae yn unig yr oedd y tonnau anferth; roedden nhw’n hanner kilometr a mwy o led, yn symud ymlaen tuag ataf fel blaengad byddin byddarol.

ton ffoto:cathasturias

Mewn newyddion dyfriol eraill, mae lefel y dŵr yng nghronfeydd gogledd-orllewin Sbaen ond ychydig dros 50%, oherwydd yr hydref hyfryd sych a gawsom ni. Ond os ydw’i’n cofio’n iwn, rhwybeth tebyg oedd hi llynedd, ac erbyn diwedd Ionawr roedden nhw’n cyffwrdd 80%.  Mis o law i ddod felly!

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: