Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 14, 2011

Yr Hoff Beiriant

Pa declyn fyddet ti’n gweld ei golli fwyaf petai’r cyflenwad trydan yn diflannu am byth? O dan yr amylchiadau newydd, ni fyddai modd ailwefru’r ffôn symudol na’r cyfrifiadur (o ba bynnag faint). Fyddai dim byd ar y teledu – dim byd o gwbl, nid y ‘dim byd’ pobl sydd wedi arfer cael dewis o blith gwledd o sianeli. Byddai’r tŷ yn oer, achos mae hyd yn oed sustem gwresogi nwy eisiau trydan er mwyn dechrau a diffodd. A fe fyddai’n dywyll am oriau hir, onibai am ganhwyllau neu lampiau olew. Y ffwrn/microdon? Fe fyddem ni’n gorfod dysgu o’r newydd sut i goginio ar dân glo, y rheiny ohonom sydd ag aelwyd i gynnau tân ynddo.

pentref Sotres ffoto:cathasturias

Dim un o’r rhain, yn ôl menywod rhai o bentrefi uchaf y Picos de Europa. Mae Tielve a Sotres yn dathlu 30 mlynedd heddiw ers iddyn nhw gael eu cysylltu â’r rhwydwaith drydan. (Cyd-ddigwyddiad ei fod wedi digwydd ar ddydd gŵyl Santes Lucia, a’i henw yn golygu golau.) Bu gohebwyr yn hel atgofion y trigolion am y diwrnod, a gofyn sut yr oedd eu bywydau nhw wedi newid ers cyrraedd y trydan. Cytgord llwyr, ymhlith y menywod o leiaf: golchi dillad. Fyddai’r un ohonyn nhw yn fodlon colli peiriant golchi a mynd yn ôl i ddyddiau gwneud yr olch yn nyfroedd oer yr afon.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: