Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 16, 2011

Y Basgwyr a Senedd Sbaen

Rhwystr arall yn ffordd y mudiad cenedlaethol-chwith yng Ngwlad y Basg wrth iddyn nhw geisio chwarae rhan ar lwyfan holl-Sbeinig. Fe wnaeth clymblaid Amaiur wneud yn dda yn yr etholiad cyffredinol fis yn ôl, gan ennill 7 o seddi. Ond roedd un ohonyn nhw yng nghymuned awtonomaidd Navarra, ac mae hynny wedi rhoi esgus i’r PP, y blaid ganolig adain-dde sy’n rheoli senedd Sbaen, i wrthod gadael i Amaiur ffurfio grŵp seneddol. Mae’r 7 yn awr yn gorfod gweithredu o fewn y grŵp ‘cymysg’ , sy’n cynnwys pawb arall.

Y broblem yw bod rhaid i grŵp ennill 15% o’r bleidlais yn y cymunedau lle mae’n sefyll, a gan bod Amaiur wedi methu â gwneud hynny yn Navarra, dydyn nhw ddim wedi cyflawni’r cymwysterau. Ond mae grŵp arall UPyD (Union Progreso y Democracia) wedi cael ymuno ag unig aelod Foro Asturias er mwyn cyrraedd y lefel angenrheidiol a ffurfio grŵp.

Mae hyn i gyd yn bwysig oherwydd bod grwpiau seneddol yn cael arian cyhoeddus er mwyn gweithredu, ac am eu bod â’r hawl i gynnig cynigiadau a gwelliannau. Yn awr gyda diwedd ymgyrch derfysgaidd ETA, daeth yr amser i ddatblygu dyfodol Gwlad y Basg drwy drafodaeth. Mae eisoes wedi dod yn amlwg bod Basgwyr a thrigolion gweddill Sbaen yn meddwl yn wahanol iawn ynglŷn â beth ddylai ddigwydd nesaf: mae gwrthod grŵp seneddol i Amaiur yn ei wneud yn llai tebyg y bydd llais cyfran helaeth o etholwyr Basgaidd yn cael ei glywed y tu fâs i’w ffiniau.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: