Mae wedi bod yn chwilio am gwmpeini ers misoedd, yn agosáu at bobl ar y mynydd, er mawr syndod i ambell i fugail a cherddwr. Ar ôl ei gwylio am fis, daethpwyd i’r casgliad bod yr hen arthes nid yn unig yn ddall ond yn drwm ei chlyw, ac wedi colli’i dannedd. Aed ati i’w chludo i barc anifeiliaid yng ngorllewin Cantabria, ychydig dros y ffin ag Asturias.
Guela, mamgu, yw’r enw maen nhw wedi rhoi arni. Mae hi tua 25 oed, sef hyd oes naturiol arth yn byw mewn rhyddid ar y mynydd. Does yr un fagl wedi llwyddo i’w chael hi, na’r un saethwr di-drwydded. Er gwaethaf poblogaeth fechan yr arth yn nwyrain Asturias a gorllewin Cantabria, mae hi wedi goroesi, a debyg iawn ei bod hi wedi geni cenawon. (Dim ond 2 neu 3 sy’n cael eu geni bob blwyddyn.)
Mae Guela wedi bod yn y ganolfan anifeiliaid o’r blaen: y llynedd, pan gafwyd hi’n wael iawn ar y mynydd, yn pwyso dim ond 52kg (llai na fi! Ac mae hi lot yn dalach.) Y gred felly yw ei bod hi wedi dewis cwmni pobl, gan wybod y byddai’n cael ei thrin yn dda a’i bwydo. Nawr mae’n pwyso 120kg ond mae dal eisiau dipyn o faldod arni.
Does ond gobeithio y bydd yr holl hen bobl sydd erbyn hyn yn ddall a drwm eu clyw yn derbyn yr un faint o gymorth a lloches pan fyddan nhw ei angen.
Gadael Ymateb