Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 19, 2011

A fo Ben Tynnid Pont

Dim rhagor o bontydd i weithwyr Sbaen. Dyma un o brif gyhoeddiadau’r prif weinidog newydd, Mariano Rajoy (PP) wrth iddo gael ei arwisgo yn ei swydd.

Dechrau o’r dechrau: mae’r PP eisiau newid byd gwaith Sbaen fel ffordd i’r sector breifat i wneud mwy o elw ac yna creu mwy o swyddi.  (Fydd y llywodraeth ganolog ddim yn creu’r un swydd: mewn rhan arall o’i araith, fe ddwedodd Rajoy na fydd swyddi cyhoeddus gwag yn cael eu llenwi, onibai am y lluoedd arfog a’r heddlu.)  Ymhlith y newidiadau mae

* dim mwy o ymddeol yn gynnar

* cymorth trethol i fusnesau bach

* symud gwyliau cyhoeddus canol wythnos i ddydd Llun

Yr un olaf yw’r un sy’n tynnu lawr y pontydd. Pontio yw’r arfer o gymryd dyddiau ychwanegol o wyliau cyn ac/neu ar ôl gŵyl pan fydd honno ganol wythnos, er mwyn mynd bant (fel arfer, i weld y teulu). I rywle fel Ribadesella a gweddill arfordir Asturias, mae’r pontydd yn fantais. Maen nhw’n ymestyn y tymor gwyliau ac yn gwneud rhai swyddi a fyddai’n dymhorol yn rhai parhaol. Ac wrth gwrs dyw’r bobol sy’n cymryd diwrnod neu ddau arall ddim yn cael nhw’n ecstra: eu cymryd o’u hawl gwyliau blynyddol y maen nhw. Ac yn ystod y cyni sydd ohoni, llai a llai sy’n cymryd yr amser ychwanegol. Pam y newid, te?

Wel mae’n edrych yn fodern ac yn Almeinig, ondyw e. Y farchnad lafur yn cael ei ‘rhyddhau’ (os wyt yn berchennog). Mae’n rhan o arddangos Sbaen i’r byd mawr (Brwselaidd) fel rhywle sy’n wahanol i wlad Groeg, yr Eidal a Phortiwgal. Ond mae ‘na gymal bach yno hefyd am beidio â symud ‘y gwyliau sydd o werth mawr cymdeithasol’ fel y Nadolig. A beth am yr holl rai sydd yn wyliau arbennig yn Catalunya neu gymunedau eraill? Ydy’r llywodraethau hynny’n mynd i adael i’w gwyliau nhw gael eu dosbarthu yn yr ail reng?

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: