Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 21, 2011

Anrheg Nadolig i’r Pentref

Dim cweit wedi cyrraedd eto, ond mae ar ei ffordd yn sicr. Mae’r ddau gyngor sy’n ffinio yn ein hafon fach ni, y Guadamia, wedi cytuno’r manylion ar gyfer adfer y llwybr ar ei hyd-ddi, o leiaf ar hyd y 1.5km olaf hyd at y môr. Tair pompren i groesi o lan i lan yn ôl pa mor hawdd yw’r cerdded y naill ochr neu’r llall, a chymdeithasau’r trigolion wedi addo clirio’r mieri ac ati 4 gwaith y flwyddyn.

Y gobaith wedyn yw y bydd y dair melin dŵr (adfeilion erbyn hyn) yn rhan isa’r afon hefyd yn cael eu glanhau, ond well inni orffen y rhan gyntaf cyn ruthro at yr ail. Disgwylir y bydd y rhan gyntaf yn barod erbyn canol mis Ionawr.

yr afon yn cyrraedd y traeth ffoto:cathasturias

Ac inni sy’n byw yma, y peth pwysig yw nid yn unig mwynhau mynd am dro, ond bod y llwybr hwn yn mynd o A i B: fe fyddwn ni’n gallu cyrraedd y traeth yn gynt, onibai’n bod ni’n debyg o aros i edrych ar bethau ar hyd y ffordd.

O ie, a’r hyn sy’n profi bod y peth yn mynd i ddigwydd: mae Ffederasiwn Mynyddwyr Asturias wedi cofnodi’r llwybr ac wedi rhoi rhif iddo PR (taith fer) AS-842.  Welwn ni chi yno!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: