Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 22, 2011

Llywodraeth Newydd Sbaen

Mae Mariano Rajoy wedi dewis ei gabinet, ac maen nhw i gyd wedi dewis tyngu llw ar y beibl a’r groes. 13 ohonyn nhw sydd, ar wahan iddo ef: 10 yn llai na chabinet clymblaid y DU, ac os ydwyf i wedi darllen y rhifau’n iawn, dwbl nifer gweinidogion cabinet Cymru. Pedair ohonyn nhw sy’n ferched – y nifer lleiaf ers 2003 ond hefyd o fewn y cabinet lleiaf.

Y rhai sydd wedi diflannu fel gweinyddiaethau ar wahan wrth newid o PSOE i PP yw Cooperación (Datblygiad Rhyngwladol), Cydraddoldeb a Mewnfudo.

O ddiddordeb inni sy’n dilyn proses heddwch Gwlad y Basg, mae’r gweinidog newydd, Jorge Fernández Díez, yn hen hen law o’r cyfnod cyn i’r cymunedau awtonomaidd gael eu sefydlu ym 1982: fe fu’n llywodraethwr suful (swyddog, er ei fod hefyd yn gwleidydda) yma yn Asturias ac yn Barcelona wedyn. Fe fydd rhaid ei wylio wrth drafod themau carcharorion ETA, datblygu’r broses wrth siarad – neu beidio – gydag Amaiur, a’r berthynas rhwng llywodraeth Gwlad y Basg a Madrid. Mae Amaiur eisoes wedi galw ar y prif weinidog i ymgymryd â’r gwaith yma ei hunan yn lle ei adael yn nwylo Fernández Díez.

Bydd dinas Madrid yn cael maer newydd, achos mae Alberto Ruíz-Gallardón wedi ei enwi yn Weinidog Cyfiawnder. Ac mae’r Gweinidog Materion Allanol newydd yn aelod o Senedd Ewrop.

 

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: