Rwyf i wedi bod yn ceisio danfon sylw at Golwg360 ar ôl darllen blog Ifan Morgan Jones – nid ei flog personol ond yr un mae Golwg360 wedi cyhoeddi yn dewis ei 10 uchaf o flogiau Cymraeg y flwyddyn. Am ryw reswm dyw’r sylw ddim wedi ymddangos, ac roeddwn i eisoes wedi penderfynu sgrifennu rhywbeth am flogio, felly bant â ni.
*Pan oeddwn i wrthi’n cyhoeddi hwn, ymddangosodd y sylw! Dyma dipyn bach mwy:
Mae’r blog yma yn sefyll tu fâs i brif ffrwd blogio Cymraeg am nad yw e ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â Chymru. Yr hyn yr wyf i’n gobeithio ei wneud ydy ehangu’r deunydd sydd ar gael; yn fy marn i does neb yn mynd i ddeall na gwella ei le yn y byd drwy syllu ar ddim byd ond ei fogel. Bydd rhai o’r pethau (cegin, gardd, cefn gwlad, cerdded) sy’n cael sylw gen i, yn taro tant yn gryf; bydd eraill fel y datblygiadau yng Ngwlad y Basg a Catalunya hefyd yn perthyn i feddylfryd Cymreig. Ond mae llawer o’r cofnodion yn trin materion neu ddigwyddiadau sy’n rhan o dreftadaeth/hanes/problemau economaidd Asturias. Fy mwriad yw disgrifio’r pethau hyn mewn modd a fydd yn ddiddorol i ddarllenydd o Gymraes ac efallai’n codi rhyw sgwarnog fydd yn cael ei ddilyn ar hyd trywydd yn bell o’r blog hwn. (Trosiad ar ben, o’r diwedd.)
Wrth gadw blog, mae rhywun yn dechrau dod i wybod am flogiau eraill: heddiw hefyd mae’n werth ailedrych ar y rhestr ar yr ochr dde, achos rwyf i wedi ei ddiweddaru. Diflannodd y rhai oedd heb gofnod newydd ers achau, ac i fewn â chwpwl o rai newydd.
Paid poeni, mae ‘Asturias yn Gymraeg’ yn fy neg uchaf i.
Fel sawl un arall, dw i’n gwerthfawrogi’r arlwy amrwyliog a geid yma.
By: Rhys on Rhagfyr 26, 2011
at 12:14 pm
Diolch Rhys! Fel pob un arall sy’n blogio ac ati yn Gymraeg, ‘na gyd wyf i eisiau yw cael mwy o ddarllenwyr a mwy o flogwyr yn chwarae rhan. Yn yr achos yma, dweud (ar ffurf blog) yw gwneud.
By: cathasturias on Rhagfyr 26, 2011
at 12:25 pm