Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 27, 2011

Gŵyl a Gwaith

Dyw heddiw – na chwaith ddoe – ddim yn ŵyl gyffredinol yn Sbaen. Mae’r ysgolion yn dal i fod ar gau, ond mae busnes y gyfraith a gwleidyddiaeth, heb sôn am fasnach, yn mynd yn ei flaen. Ac nid ar ryw chwarae bach: ddoe fe ddwedodd gweinidog newydd materion economaidd y byddai’r wlad yn dechnegol ‘mewn dirwasgiad’ ddechrau’r flwyddyn newydd; heddiw mae sesiwn newydd y Congreso yn cael ei agor gan y brenin. Am y tro cyntaf, ac am resymau economaidd ac o bosib cyfreithiol, ni fydd pob aelod o’r teulu brenhinol yn bresennol ac ni chynhelir cinio crand. O hyn ymlaen ni fydd y ddwy dywysoges yn cymryd rhan flaenllaw yng ngweithgareddau cyhoeddus, a hynny’n rhannol o leiaf oherwydd y cyhuddiadau o dwyll a llygredd a ddisgwylir yn erbyn Iñaki Urdangarin, gŵr un ohonynt.

Mae rhai o aelodau’r senedd wedi penderfynu bod yn absennol hefyd: gweriniaethwyr Amaiur (Gwlad y Basg) a’r ERC (Catalunya).

Yn y cyfamser, mewn llys yn Valencia, mae achos llygredd cyn-lywydd y gymuned awtonomaidd honno, Francisco Camps, yn mynd yn ei flaen, gyda mwy o dystiolaeth o’r teiliwr. Rhyfedd, ondyw e, mor aml mae’r troseddwyr mwyaf yn cael eu dala oherwydd pethau bach, fel Al Capone a’r dreth? Y cyhuddiad fan hyn yw bod Camps wedi derbyn dwsin o siwts (OK, da, a drud) nad oedd rhaid iddo dalu dimai amdanyn nhw. Trefnwyr y cynllun Gurtel, oedd yn ymwneud â phethau llawer iawn mwy na siwts, fel cynllunio trefol ac adeiladu yn ystod y bŵm, fyddai’n delio â’r biliau, medd yr erlyniaeth.

Mae sawl achos arall i ddod, y math o achos sy’n tanlinellu’r agendor eang sydd rhwng y cyfoethocaf oll a ninnau.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: