Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 28, 2011

Ag Arian y Prynir Popeth…ond Gair Da

Pawb yn yr un twll? Na, dwi ddim yn credu hynny. Mae grym yn llygru, heb os nac onibai.

*Mae cyngor dinas Madrid (PP) wedi codi’r dirwy am chwilio drwy finiau o €30 i €750. Nid ymdrech i rwystro newyddiadurwyr y wasg felen, gwasg y galon fel mae’n cael ei galw fan hyn, ond yn erbyn pobl sy’n chwilio am fwyd. Pobl heb waith, heb gartref yn aml. Ond beth sy’n mynd i ddigwydd? Os yw rhywun yn gorfod mynd drwy wastraff archfarchnadoedd a thai bwyta er mwyn llenwi’i fola, go brin y bydd ganddo €7.50, heb sôn am €750, i dalu dirwy. Un arall ar ei ffordd i’r carchar am beidio talu, ac yn lle gwneud arian i gyngor Madrid, bydd y mesur yn costi arian i drethdalwyr Sbaen i gyd.

*Mae prif weinidog Sbaen, Mariano Rajoy (PP) am rewi’r isafswm cyflog, ar hyn o bryd yn €641 y mis (ychydig dros hanner beth yw e yn y DU, a dim digon i dalu dirwy’r biniau unwaith!). A hynny er gwaethaf cytundeb rhwng y cyflogwyr a’r undebau sydd yn parhau tan ddiwedd 2012 ac a fyddai wedi codi’r isafswm o leiaf 1.5% (dal dim digon.)

*Mae cyn-weinidog datblygiad, Jose Blanco (PSOE) yn wynebu cyhuddiadau o lygredd, o werthu ei ddylanwad er mwyn sicrhau caniatad cynllunio i nifer o fusnesau.

Siŵr bod mwy. Rhy ddigalon i chwilio.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: