Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 29, 2011

Diffynnydd Dugol

O’r diwedd mae’n swyddogol: bydd dug Palma, Iñaki Urdangarin, mab-yng-nghyfraith brenin Sbaen, yn ymddangos gerbron llys barn ddechrau’r mis bach ar gyhuddiadau o dwyll, cam-ddefnyddio arian cyhoeddus ac osgoi trethi’n anghyfreithlon. Roedd Urdangarin, sydd yn awr yn byw yn yr Unol Daleithiau, yn rhedeg ymddiriedolaeth oedd yn derbyn arian gan lywodraeth Ynysoedd y Baleares am drefnu cynadleddau ac ati. Honnir bod yr arian, neu ran ohono, wedi cael ei drosglwyddo i gyfrifon personol Urdangarin.

Does dim sicrwydd eto faint o arian fydd yn cael ei gynnwys yn y cyhuddiadau terfynol: y sôn yw bod €5m wedi ei dalu’n uniongyrchol gan lywodraeth y Baleares, ond heddiw fe grybwyllir €16m fel incwm yr ymddiriedolaeth dros gyfnod o 8 mlynedd.

Yn sgîl yr holl ddadl am Urdangarin a’i arian, fe wnaeth y teulu brenhinol ddau beth: ymbellhau oddi wrtho (ni fydd ef, ei wraig y dywysoges Cristina, na’i chwaer hi a’i theulu, yn chwarae rhan mewn gweithgareddau cyhoeddus bellach fel aelodau o’r teulu brenhinol), a chyhoeddi faint o arian maen nhw’n ei dderbyn wrth y dreth. Mae’r olaf ynddo’i hun wedi arwain at lawer o ofyn: beth arall sy’ na? achos dyw’r symiau ddim i’w gweld yn ddigonol ar gyfer y plastai, cychod etc sydd gyda nhw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: