Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 3, 2012

O’r Gegin: Sgons Caws

Prynhawn yn y gegin a rwy’n barod am hoe fach. Beth sy’n bwysig yr adeg hon o’r flwyddyn yw bwyta’r pethau sydd wedi eu cadw yn rheolaidd – fel hyn wyt ti’n edrych drostyn nhw ac yn cael cyfle i dowlu unrhyw beth sydd wedi dirywio gormod. Pilo kilo o fale felly, a’u sgleisio, a’u towlu nhw i fowlen o ddŵr gyda sudd lemwn ynddo fe i geisio eu cadw nhw rhag mynd yn frown. (Dyw e byth yn gweithio gant y cant, ond mae yn help.) Cymysgu deunydd y crymbl a’i ddod i fe naill ochr yn barod i gwrdd â’r fale heno yn y ffwrn.

Wedyn, bues i’n gweithio cawl pwmpen at yfory (a thrennydd a thrannoeth…) Mae’r rysait fan hyn.  

Ac yna penderfynu chwilota drwy silffoedd yr oergell a chael darn bach o gaws hyfryd Gamoneu o fynyddoedd y Picos de Europa – wedi mynd braidd yn galed erbyn hyn ond yn blasu’n iawn. Sgons caws amdani! Doedd gen i ddim llaeth enwyn ond mae cymysgedd o 2x yogwr hylif + 1x llaeth yn gwneud y tro. Byddaf yn defnyddio soda pobi a phowdwr pobi, ac yn ychwanegu hanner llwy te o bowdwr mwstard a’r un faint o bupur cayenne i bob 250g blawd/100g caws/150ml llaeth/25g menyn. Heddiw hanner a hanner can a blawd cyfan oedd hi, ac roedd y sgons angen 5 munud yn fwy yn y ffwrn o’r herwydd.

Ond maen nhw’n barod nawr….lle mae’r llyfr ‘na wedi mynd?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: