Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 4, 2012

Pigion Arabaidd

Tra bod gwrthryfel Siria ar y tudalennau blaen mae’n hawdd colli golwg ar beth sy’n digwydd yn y gwledydd hynny lle eginodd y Gwanwyn Arabaidd yn gynt. Ac wrth edrych arnyn nhw beth weli di yw pobl yn camu’n araf iawn tuag at y ffurf o lywodraeth/wlad y maen nhw eisiau.

Yn Moroco, lle na fu gwrthryfel arfog, fe gytunodd y brenin i newid y cyfansoddiad a chynnal etholiadau newydd. Prif enillwyr yr etholiadau hynny oedd Plaid Cyfiawnder a Datblygiad, sy’n cael ei disgrifio fel mudiad Islamaidd cymedrol.  Dylid nodi hefyd bod mwy o fenywod yn y senedd nag o’r blaen, oherwydd cynnydd yn y nifer o seddi a gedwir ar eu cyfer nhw. Ond does na’r un yn y llywodraeth, na chwaith neb o’r bobl Saharawi.

Yn Tunis, lle gychwynnodd popeth, mae’r Islamwyr cymedrol eto wrth y llyw (heb frenin y tro ‘ma!) ar ôl etholiadau mis Hydref, a chlymblaid adain chwith wedi ffurfio i’w gwrthwynebu. Mae gweinidogion o Ffrainc a’r Eidal eisoes wedi trefnu ymweld â’r llywodraeth newydd.

Bahrain: dim newid o gwbl hyd y gwela’i. Cyn-blismon o Loegr (Yates of the Yard) wedi cael ei gyflogi i roi cyngor i’r heddlu sut i drin protestwyr. Mae heddweision Bahrain yn dod o wledydd eraill yn lle bod yn rhan o’r gymuned. Fideo diddorol yma. (Gwefan ‘Mudiad Rhyddid Bahrain’).

Mae pobl yr Aifft yn pleidleisio nawr yn nhrydydd rownd eu hetholiadau hwy, ond eisoes mae wedi dod yn amlwg taw’r fyddin sydd mewn grym yn awr fel o’r blaen. Mae’r ffordd maen nhw’n trin merched sy’n protestio yn ffiaidd, sdim gair arall amdano.

Ac yn Yemen, lle mae’r arlywydd wedi addo gadael ei swydd y mis sy’n dod, mae llawer yn awr yn dweud y dylai sefyll ei brawf am farwolaethau cannoedd o brotestwyr yn ystod y misoedd diwethaf.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: