Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 5, 2012

Mwy o Bysgod yn y Môr

Mae pysgotwyr, fel ffermwyr, yn hoff iawn o gonan – y tywydd, y rheolau, pris tanwydd, y pris maen nhw’n cael am y pysgod. Rheolau newydd Ewrop, yn fwy na dim, wedi arwain llawer un at adael y môr yn gyfangwbl. Ond pan ddaeth cyfrifon lonjas (cymdeithasau’r pysgotwyr) dwyrain Asturias mâs ddiwedd y flwyddyn, dyma nhw ar eu hennill o ran y tunnelli a ddalwyd a’r ewros a gafwyd amdanyn nhw.

Mae bois Llanes wedi dal bron i 25% yn fwy yn ystod 2011 nag yn y flwyddyn flaenorol. Yn Ribadesella a Lastres hefyd, mae’r ffigyrau’n uwch o lawer na 2010. Bustio sydd ar waelod y rhestr, heb symud fawr ddim.

Mae’r math o bysgod sy’n cael ei ddala wedi newid hefyd, a hynny yn bennaf am y cyfyngiadau sydd yn awr ar ddal y cegddu. I’r rhwyd yn awr y daw mecryll – pysgodyn nad oedd yn boblogaidd o gwbl yn Asturias, er ei fod yn cael ei fwynhau yng Ngwlad y Basg – a’r llysywen fôr, congrio yn Sbaeneg. Ac mae pysgod drud fel y maelgi o hyd yn ennill digon i’r pysgotwyr sy’n eu dal.

Ar nodyn personol, rydym ni yn y pentref yn lwcus iawn bod dyn gwerthu pysgod yn dod o gwmpas bob dydd Mawrth, ar ôl prynu’r pysgod yn ocsiwn un o’r lonjas y noson gynt a’i baratoi yn oriau mân y bore. Dim yn or-ddrud chwaith!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: