Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 8, 2012

Aur y Tylwyth

Rwyf i wedi sôn o’r blaen am deulu’r Cosmen, pobl busnes hynod gyfoethog – ymysg y cyfoethocaf yn Sbaen. Ond heddiw wnes i ddarllen hanes newydd (imi: hen iawn yn eu datblygiad nhw) sy’n dangos nad oeddwn i ddim yn hollol iawn yn dweud taw o Luarca yr oedd y teulu’n hanu. O orllewin Asturias, ie, ond o’r mynyddoedd yn hytrach na lan môr.

O Fwlch Lleitariegos rhwng Asturias a León, â bod yn fanwl. Ac mae’r chwedl am sut y cawson nhw eu dechrau ym myd busnes yn mynd yn ôl canrifoedd. Does neb yn siwr beth yw tarddiad yr enw Lleitariegos, ond yn ôl yr arfer mae tarddiad wedi ei greu o sŵn yr enw: taw cyfeirio at y gweunydd y mae, lle byddai’r gwartheg yn pori drwy’r haf ac yn cynhyrchu llaeth (leche) da iawn oherwydd perlysiau’r borfa. Yn y gaeaf, dim ond cyndeidiau’r Cosmen oedd yn byw yno, ac yn estyn cymorth i’r sawl oedd yn gorfod croesi’r bwlch yn yr eira.

Rywbryd tua diwedd yr 11fed ganrif, Urraca, brenhines Castilla a’i gweision oedd y bobl hynny, a bu’n rhaid iddyn nhw aros nos yn nhŷ’r Cosmen oherwydd y tywydd gwael. Ac fe gafodd y teulu wobr ddirfawr: tâl blynyddol a hefyd cael eu hesgusodi o bob treth ac o wasanaeth filwrol. A hynny ar yr amod eu bod yn aros yn Lleitariegos, gydol y flwyddyn, ac yn helpu teithwyr. Fel hyn y dechreuodd y Cosmen eu gyrfa fel porthmyn a chludwyr nwyddau o bob math. Os byw ar yr heol, gweithio ar yr heol. Gyrwyr mulod am yn agos i fileniwm, yn dosbarthu popeth: llin, gwlan, grawn, gwin, ar hyd ‘heolydd olwyn’ a ‘heolydd pedol’ gogledd Sbaen, ac yn bennaf wrth gwrs rhwng Asturias a León. Roedd y statws a gawsan nhw gan y brenin yn sicrhau’r hawl i fynd i unrhyw dref heb dalu’r dreth leol.

Fel porthmyn Cymru, nhw oedd banc y werin, yn benthyg yn ystod cyfnodau o newyn ac yn ei gael yn ôl byth wedyn. Ond cyfrinach llwyddiant parhaol y teulu Cosmen yw’r teulu: dim cwympo mâs, rheoli busnes a chytundebau o fewn y teulu, danfon cefndryd i agor canghennau a busnesau newydd yn Madrid – a dim gwerthu’r cwbl ac ymuno â’r cyfoethogion diog.  Ac felly mae nhw hyd heddiw, y cwmni bws cyntaf yn Tseina i ddefnyddio amserlen a’i dilyn; perchnogion cwmniau yn Ne America, a chyfranddalwyr mawr o hyd yn National Express. Tipyn o lwc yn y lle cyntaf, ac wedyn gwneud i’r lwc ‘na weithio drostyn nhw.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: