Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 9, 2012

Had Maip…ac Eraill

Mae’r awyr wedi dechrau sychu ond y pridd yn dal yn wlyb: amser i feddwl am hau a phlannu, ond yn bendant heb droedio ar dir yr ardd. Byddwn ni’n cadw llawer o’n hadau ein hunain, yn enwedig pethau cymharol mawr a hawdd eu trin fel tomatos, ffa a phwmpen – a thato, wrth gwrs. Byddwn ni hefyd yn cyfnewid hadau gyda chymdogion, blodau yn bennaf, ac yn cael toriadau ganddyn nhw hefyd.

Ond bob blwyddyn bydd rhaid prynu hefyd. Does gyda ni ddim digon o le i adael i ddegau o letys neu foron aros yn eu hunfan nes eu bod nhw wedi cynhyrchu hadau (dwy flynedd yn achos y moron), Un o’r cwmniau gorau dwi wedi cael yw Seeds of Italy. Maen nhw’n gysylltiedig â hen gwmni Franchi, sydd yn cynhyrchu ei hadau ei hunan, ac ar werth ar draws Sbaen erbyn hyn. Does gyda fi ddim cysylltiad gyda nhw! Mae dewis da o bob math o lysiau a pherlysiau (ond – ond pwysig – na phryner yr amgwyn (taragon). Un o Rwsia yw e, dim hanner cystal â’r Ffrengig.) ac ychydig o flodau. Hyd yn hyn rwyf i wedi cael eitha lwyddiant er eu hadau nhw.

Ond mae rhywun yn dal i deimlo y dylwn ni gadw mwy o hadau, ac yn ddiweddar des i ar draws y Real Seed Company – gwefan uniaith Saesneg er taw yn Sir Benfro y maen nhw. A’r rheswm? Maen nhw’n arbenigo mewn hadau sy’n addas i’w cadw – dim F1 hybrids yma. Maen nhw’n casglu hadau: hen fathau o lysiau sydd wedi diflannu o lyfrau’r cwmniau mawr, ac yn eu bridio nhw. Ac mae’r wefan yn llawn gwybodaeth ynglŷn â chadw hadau. Dwi ddim wedi archebu dim eto, ond rwy’n bwriadu gwneud yn fuan.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: