Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 10, 2012

Blwyddyn ym Mywyd Bar

Blwyddyn heb fwg, hynny yw. A dyna chi syndod, does dim mwy o farau wedi cau nag arfer; yn ôl perchennog un bar a thŷ bwyta, ‘efallai’n bod ni’n colli ambell i goffi neu chupito (brandi ac ati) ar ôl pryd o fwyd – ond mae’r rhan fwyaf yn mynd mâs i gael mwgyn a dod yn ôl i fewn’. Un arall wedi sylwi ‘bod yr holl le’n lanach, a’r gweithwyr yn hapusach’.

Beth sydd wedi digwydd, yng nghanol dinasoedd fel mewn pentrefi bach, yw bod yr ysmygwyr wedi cymryd drosodd y teras. Mae trigolion Asturias yn hoff o eistedd yn yr awyr agored rownd y flwyddyn beth bynnag, ac wedi arfer cael teras neu falconi dan do rhag y glaw ond yn agored i’r awel. Yn aml iawn bydd cyfaill sy’n smygu yn anelu am y drws ac un neu ddau (sydd ddim) yn ei ddilyn e er mwyn parhau’r sgwrs.

Yr unig amser y mae ‘na dipyn o wrth-daro yw yn yr haf, pan fydd teulu – neu gyfuniad o deuluoedd – yn cyrraedd gyda haid o blant. Dyw plant Sbaen ddim mor uchel â rhai, ond dydyn nhw ddim mor ‘rhwystredig’ â phlant Ffrainc chwaith. Sdim ots gyda’r plant am y mwg, ond bydd y smygwyr truan fel arfer yn hel eu pac o achos y sŵn a’r anhawster cynnal sgwrs. Dau grŵp eisiau’r un tiriogaeth: casus belli os bu un eriod.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: