Wel ych chi’n lwcus o gael cofnod o gwbl heddiw, ac un digon byr bydd e, mae arna’i ofn. Bore ‘ma fe dorrodd yr hen gyfrifiadur i lawr – ei galon neu ei ymennydd wedi rhoi’r gorau iddi a rhyw sŵn rhyfedd fel haid o wenyn (neu un wenynen ddig iawn) yn dod o’r berfeddion. Ar ôl tipyn o ddatgysylltu a diffodd, a chysylltu a chynnau, heb effaith o gwbl, dim ond un peth oedd i’w wneud – mynd i brynu un arall.
A dyma wnaethom ni, Mac hyfryd newydd sbon yn eistedd o’m blaen yn awr, ond bydd eisiau awr neu ddwy imi ail-drefnu’r holl nodau tudalen (does dim modd darllen yr hen rai), a dysgu’r pethau bach gwahanol sydd gyda sustem Lion. Ar hyn o bryd rwy’nffaelu’n deg â chreu ffolders i’m nodau tudalen ond fe ddaw, fe ddaw.
Gyda llaw roedd arfer bod gwahaniaeth mawr yn y prisiau wrth brynu pethau cyfrifiadurol fan hyn – lot yn uwch nag yng Nghymru – ond heddiw doedd fawr o ddim ynddi. Cysoni ar lefel Ewropeaidd? Efallai.
Dw i ddim yn gwybod sut ti’n teimlo am godw dy nodau tudalen ‘yn y cwmwl’ on dw i’n defnyddio gwasanaeth o’r enw delicious.com ers rhai blynyddoedd a faswn i ddim yn gallu byw hebddo. Mae’n anodd gweld o dudalen flaen y gwasanaeth sut mae’n gweithio’n union na’i fanteision, mae’n well edrych ar gyfrif rhywun.
Yn ogystal a manteision fel categorieddio, sy’n ei wneud yn hawdd/haws dod o hyd i’r 5,500+ o nodau tudalen dw i wedi gadw dros y blynyddoedd, mae gyda fi fynediad at fy nodau, dim ots ar ba gyfrifiadur ydw i. Mae modd hefyd mewnforio’r nodau ar eich cyfrifiadur fel ‘back-up’.
By: Rhys on Ionawr 12, 2012
at 10:04 am
Diolch yn fawr am hynny Rhys – wedi clywed amdano and heb ddeall beth oedd ‘delicious’ yn ei wneud. Mae’n ymddaangos yn syniad da. Wedi edrych arno – yr unig beth sy´n synnu fi braidd yw dy fod ti wedi rhoi´r ddolen ar wefan gyhoeddus – wyt ti´n iawn gyda hynny?
By: cathasturias on Ionawr 12, 2012
at 11:26 am